Polisi preifatrwydd www.creusbarc.cymru

Ein nod yw sicrhau ein bod yn cadw at bolisi preifatrwydd cadarn. Rydym yn casglu gwybodaeth yn benodol at y dibenion canlynol: 

  • er mwyn ein helpu i wneud i’r wefan weithio’n well i chi 
  • er mwyn i ni allu cysylltu â chi pan fyddwch yn gofyn i ni wneud hynny 
  • er mwyn ein galluogi i roi gwybod i chi am ddiweddariadau perthnasol os byddwch chi wedi cofrestru i dderbyn ein cylchlythyrau

Mae’r wefan hon yn defnyddio dolenni i ac o sefydliadau eraill. Hoffem ei gwneud yn glir bod y polisi preifatrwydd hwn (yr un yr ydych yn ei ddarllen) yn berthnasol i wefan CIC CreuSbarc yn unig. 

Defnyddir cwcis ar y wefan hon 

Y wybodaeth a gasglwn 

Llywodraeth Cymru sy’n darparu’r platfform sy’n lletya CIC CreuSbarc ac S8080 sy’n darparu’r gwasanaeth cynnal a chadw ar gyfer y wefan a’r gwasanaeth gwe-letya i CIC CreuSbarc. Am y rheswm hwn, mae Llywodraeth Cymru a S8080 yn brosesyddion data angenrheidiol er mwyn cyflwyno CIC CreuSbarc. Gall Llywodraeth Cymru a S8080 weld y data a gesglir yn ystod y prosesu, ond nid oes ganddynt hawl i ddefnyddio’r data hwn at unrhyw ddiben ar wahân i gyflwyno CIC CreuSbarc. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r defnydd a wneir o’ch data, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i hello@bethespark.info

Rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol gan bobl sy’n ymweld â’r wefan: 

  • y cwestiynau, yr ymholiadau a’r adborth y mae pobl yn eu gadael, gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost os byddwch yn anfon e-bost atom
  • manylion personol a busnes byr (eich enw, enw busnes, cyfeiriad e-bost)
  • cyfeiriadau IP ymwelwyr, a manylion ynglŷn â pha borwr a ddefnyddiwyd ganddynt (cesglir y wybodaeth hon fel rhan o brosesu data ac ni chaiff ei ddefnyddio at unrhyw ddiben gan unrhyw brosesydd data, gan gynnwys CIC CreuSbarc) 
  • gwybodaeth am sut mae pobl yn defnyddio’r wefan, gan ddefnyddio cwcis a thechnegau tagio tudalennau 

Os byddwch yn cysylltu â ni drwy e-bost neu ffurflen ar-lein, byddwn yn cadw cofnod o’ch neges. 

Bydd eich manylion yn cael eu cadw ar gronfa ddata CIC CreuSbarc hyd nes y bydd arnoch chi angen iddynt gael eu symud ac yn penderfynu nad oes arnoch chi angen defnyddio’r wybodaeth mwyach. Mae gennych yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl a gofyn i ni ddileu eich data ar unrhyw adeg. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â hello@bethespark.info

Mwy o wybodaeth am gwcis 

Defnyddia CIC CreuSbarc ffeiliau data bychan a gaiff eu storio ar eich cyfrifiadur a elwir yn ‘gwcis’. Mae’r rhan fwyaf o wefannau mawr yn gwneud hyn. Maent yn ein helpu i wella eich profiad o’r wefan. Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â’r hyn a wnawn gyda’r cwcis a sut i reoli eu defnydd ar ein tudalen cwcis

Caiff unrhyw wybodaeth a gasglwn ei defnyddio er mwyn: 

  • gwella cynnwys a chynllun y wefan
  • cysylltu gyda chi (gyda’ch caniatâd) er mwyn ymateb i adborth
  • cysylltu â chi drwy ein cylchlythyr (gyda’ch caniatâd) er mwyn anfon gwybodaeth i chi 

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau eraill at ddibenion marchnata, ymchwil i’r farchnad na dibenion masnachol, ac nid ydym yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i unrhyw wefan arall.

 

Y CWCIS SY’N CAEL EU DEFNYDDIO AR Y SAFLE YMA

Universal Analytics

Enw'r Cwci Disgrifiad
_ga Mae hwn yn ein helpu i gyfri faint o bobl sy’n ymweld â’r wefan drwy dracio os ydych chi wedi ymweld â’r wefan o’r blaen.
_gat Caiff ei ddefnyddio i reoli’r gyfradd y gwneir ceisiadau i weld tudalennau.

Google Analytics

Enw'r Cwci Disgrifiad
_utma Fel _ga, mae hwn yn rhoi gwybod i ni os ydych chi wedi ymweld o’r blaen, felly gallwn gyfri faint o’n hymwelwyr sy’n newydd i’r wefan hon neu i dudalen benodol
_utmb Mae hwn yn gweithio gyda _utmc i gyfrifo faint o amser rydych chi’n ei dreulio ar y wefan hon ar gyfartaledd
_utmc Mae hwn yn gweithio gyda _utmb i gyfrifo pan fyddwch chi’n cau eich porwr
_utmz Mae hyn yn dweud wrthym sut roeddech chi wedi cyrraedd y wefan hon (ee o wefan arall neu o beiriant chwilio)

AddThis

Enw'r Cwci Disgrifiad
__atuvc Mae’n cael ei ddefnyddio gan y botymau rhannu cymdeithasol AddThis
__atuvs Mae’n cael ei ddefnyddio gan y botymau rhannu cymdeithasol AddThis

Cookie control widget

Enw'r Cwci Disgrifiad
business-wales_cookiecontrol Mae’n storio eich dewisiadau o ran rheoli cwcis Mae hwn yn cael ei osod bob tro.

cwcis Drupal

Enw'r Cwci Disgrifiad
has_js Mae Drupal yn defnyddio’r cwci hwn i nodi a ydy JavaScript wedi cael ei alluogi ar borwr yr ymwelydd

DEFNYDDWYR DILYS Drupal

Enw'r Cwci Disgrifiad
SESS* Cwci sesiwn i storio sesiwn y defnyddiwr dilys
drupal.tabledrag.showweight Mae’n nodi a oes modd llusgo eitemau tabl
Drupal.toolbar.collapsed Mae’n storio’r dewis i gwympo’r ddewislen weinyddol a ddangosir

Hysbysiad Preifatrwydd Cofrestriad 

Diweddarwyd yr hysbysiad hwn yn fwyaf diweddar ar 20 Mawrth 2019 

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i CIC CreuSbarc ac yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol rydym wedi datblygu Hysbysiad Preifatrwydd sy’n egluro ein rhesymau dros gasglu a defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn sicrhau y caiff eich data personol ei brosesu’n deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw.

Rhowch eiliad i ymgyfarwyddo â’n harferion preifatrwydd. 

Pam ein bod yn casglu ac yn prosesu’r data a gesglir?

CIC CreuSbarc fydd Rheolwr Data y data personol yr ydych yn ei ddarparu ar wefannau CIC CreuSbarc. Pwrpas casglu’r data hwn yw er mwyn i chi gyrraedd at wybodaeth nad yw ar gael ar y rhyngwyneb cyhoeddus. 

Pwy fydd yn cael gweld eich data?

Bydd y wybodaeth a gesglir ar gael i’r gweinyddwyr technegol sy’n gweithio ar y system TG ac i aelodau o Lywodraeth Cymru, gan fod gwefan CIC yn cael ei lletya ar blatfform Llywodraeth Cymru. Ni fydd y gweinyddwyr technegol ac aelodau Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd. 

 

Am ba hyd y cedwir eich manylion? 

Bydd eich manylion yn cael eu cadw ar gronfa ddata CIC CreuSbarc hyd nes y bydd arnoch chi angen iddynt gael eu symud ac yn penderfynu nad oes arnoch chi angen defnyddio’r wybodaeth mwyach. 

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl: 

  • i weld y data personol y mae CIC CreuSbarc yn ei gadw amdanoch 
  • i ofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data personol y mae CIC CreuSbarc yn ei gadw amdanoch 
  • i wrthwynebu neu i atal prosesu’r data (mewn rhai amgylchiadau)
  • i ofyn bod eich data’n cael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol mewn perthynas â diogelu data

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Cyswllt Cwsmeriaid

Wycliffe House

Water Lane 

Wilmslow 

Swydd Gaer SK9 5AF 

Rhif Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113 Gwefan: www.ico.org.uk

I gael cymorth gydag unrhyw rai o’r hawliau uchod, cysylltwch â CIC CreuSbarc drwy anfon e-bost i hello@bethespark.info 

Newidiadau i’r polisi hwn 

Gall CIC CreuSbarc wneud newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Caiff y newidiadau eu postio yma a byddant yn dod i rym ar unwaith. Pan fydd newidiadau i’r polisi, byddwn yn cysylltu â chi ar y cyfeiriad e-bost sydd wedi ei gofnodi yn eich cyfrif er mwyn i chi gael adolygu’r fersiwn newydd. 

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau cysylltiedig â gwybodaeth, cysylltwch â hello@bethespark.info