M-SParc yn datgelu swyddi gwych ond mae angen gwneud mwy.

Mae M-SParc wedi datgelu canfyddiadau ei arolwg blynyddol ymysg ei denantiaid. Mae’r arolwg yn dangos bod gyrfaoedd gwych yn y sector gwyddoniaeth a thechnoleg ond bod angen mynd i’r afael â phroblemau o ran cydraddoldeb a phrinder siaradwyr Cymraeg.

 
 
MSParc - Ken Skates

Cafodd M-SParc, Parc Gwyddoniaeth sy’n berchen i Brifysgol Bangor, ei sefydlu i greu gyrfaoedd sy’n talu’n dda yn y rhanbarth. Y newyddion da yw bod 84% o M-SParc bellach yn llawn. Mae 200 yn gweithio yn yr adeilad, mae dros 50 o yrfaoedd newydd wedi cael eu creu, ac mae'r ffigurau’n dangos bod y swyddi hyn yn talu’n dda. £32,632 yw cyflog cyfartalog rhywun sy’n gweithio mewn cwmni yn M-SParc. Mae hyn yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Ynys Môn (£27,596), Conwy (£25,464) a Gwynedd (£23,858). £27,820 ydy cyfartaledd Cymru. 

 

Mae Billy Williams yn dod o Amlwch yn wreiddiol ac fe ddaeth yn ôl i’r ardal ar ôl bod yn gweithio yn Llundain. Sefydlodd Billy Cufflink, cwmnitechnoleg yn M-SParc. Dywedodd Billy:

Ers symud i M-SParc rydyn ni wedi creu 3 swydd technoleg uchel newydd, gyda dau o’r gweithwyr wedi graddio ym Mhrifysgol Bangor, ac un arall wedi symud yn ôl i’r ardal.  Byddwn ni’n tyfu eto dros y misoedd nesaf, a byddwn ni’n recriwtio ac yn cyflogi hyd at 8 aelod newydd o staff.

Mae’r cwmni’n mynd o nerth i nerth, ac mae hyn yn rhannol oherwydd yr ecosystem anhygoel rydyn ni’n rhan ohoni yma yn M-SParc.

Serch hynny, nid da lle gellir gwell; o’r 34 cwmni sy’n denantiaid yn M-SParc, dynion sy’n ennill y cyflogau uchaf.  Mae’r rheini sydd wedi cael cynnydd yn eu cyflog drwy gydol eu gyrfa hefyd yn ddynion.  Mae hyn yn symptom o broblem ehangach. Yng Nghymru mae'r bwlch cyflog rhwng dynion a merched yn 14.5% ac yn y sector gwyddoniaeth a thechnoleg yn y DU mae dynion yn ennill 25% yn fwy na merched.  Yng Ngwynedd, mae tua 16% o’r merched sydd yn y gweithle yn gweithio mewn STEM – er bod y ffigur hwn yn cynnwys y rheini sydd mewn swyddi gweinyddol, felly mae’r ffigur go iawn yn llai byth.

Ar ben hynny, nid ydy'r rheini sydd yn y swyddi sy’n talu orau yn siarad Cymraeg gan amlaf.  Mae ymchwil yn dangos yng Nghymru fod siaradwyr Cymraeg yn ennill 10% yn fwy ar gyfartaledd na’r rheini nad ydynt yn siarad Cymraeg.  Mae’r ffigurau yn M-SParc yn gwbl groes i hynny, gyda siaradwyr Cymraeg yn y swyddi sy’n talu’r lleiaf.

 

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, rheolwr gyfarwyddwr M-SParc:

Rydyn ni’n falch o weld bod gyrfaoedd sy’n talu’n dda yn cael eu creu, dyna oedd y weledigaeth; gweld y busnesau hyn yn tyfu gyda M-SParc ac yn elwa o Brifysgol Bangor.  Ond mae’n ddychrynllyd bod nifer is na’r cyfartaledd o siaradwyr Cymraeg yn y sector a’r ffaith bod merched yn ennill £17,000 yn llai na dynion ar gyfartaledd. Mae angen i ni ddeall y rolau sy’n cael eu cyflawni gan ferched yn y Parc Gwyddoniaeth a’r hyn sydd wrth wraidd y bwlch cyflog rhwng dynion a merched.

Rydyn ni’n canolbwyntio ar gefnogi cwmnïau yn y sectorau Gwyddoniaeth a Thechnoleg i dyfu ac i greu gwaith. Mae graddedigion Prifysgol yn elwa’n barod, mae yna yrfaoedd cyffrous yma i bobl ifanc o’r Gogledd ond mae angen i ni gael mwy o bobl ifanc leol i astudio pynciau STEM.

Rydyn ni’n darparu adnoddau STEM yn barod i blant a phobl ifanc ar adran ‘Dynamos Ifanc’ ein gwefan, mae gennym ni glwb codio misol gyda Technocamps Bangor, ac rydyn ni’n gweithio’n agos gyda phrosiectau fel STEM Gogledd er mwyn hyrwyddo pynciau STEM gyda phlant.  Bydd darparu sgiliau a hyfforddiant ac ysbrydoli’r bobl ifanc hyn i ddewis pynciau STEM yn hanfodol wrth i ni symud ymlaen.

 

Yn ogystal â chynnig cyfleoedd i raddedigion gwyddoniaeth a thechnoleg, mae M-SParc yn cynnig cyfleoedd i’r rheini sydd yn y sector busnes i helpu gyda marchnata, rheoli a chyllid.  Mae’r cysylltiadau gyda Phrifysgol Bangor yn mynd yn gryfach, wrth i fwy a mwy o fyfyrwyr ddod i ddigwyddiadau a manteisio ar yr hyn sy’n digwydd yn M-SParc.

Dywedodd Lowri Owen, B-Fentrus ym Mhrifysgol Bangor:

Rydyn ni’n gweithio’n agosach ac yn agosach gydag M-SParc er mwyn dod o hyd i leoliadau i raddedigion, dangos pa gyfleoedd gyrfa sydd ar gael i’n myfyrwyr ar gyfer y dyfodol, a hyd yn oed rhoi lle i sefydlu cwmnïau graddedigion mewn swyddfa sy’n cael ei noddi gan Brifysgolion Santander er mwyn hybu entrepreneuriaeth mewn amgylchedd ffantastig sydd mor gefnogol.

Daeth y canlyniadau o arolwg blynyddol o denantiaid a chawsant eu dadansoddi gan yr arbenigwr economaidd a darlithydd yn Ysgol Fusnes Bangor, Prifysgol Bangor, Dr Edward Jones.  Dywedodd:

Mae’r ystadegau’n siarad drostynt eu hunain, ac mae hi’n bwysig nodi bod 76% o’r rheini sy’n gweithio yn yr adeilad yn mwynhau dod i’r gwaith a bod 81% o'r ymatebwyr yn teimlo eu bod yn rhan o'r gymuned.  Mae’r tîm yn M-SParc wedi llwyddo i greu synnwyr cryf o gymuned ac amgylchedd lle mae cwmnïau’n gallu cydweithio a datblygu, ar ben cyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd amrywiol sy’n talu’n dda.

 

Aeth Pryderi ap Rhisiart ymlaen i ddweud:

Dydy’r gyrfaoedd sy’n talu’n dda a’r effaith economaidd ddim yn digwydd drwy ddamwain chwaith. Mae cwmnïau yma yn cael cymorth busnes arbennig i sicrhau eu bod yn llwyddo ac yn ffynnu, a dyna’r hyn rydyn ni’n ei weld.

Dydyn ni ddim am ganolbwyntio ar yr elfennau cadarnhaol yn unig; mae gennym ni ragor o waith i’w wneud i greu cyfleoedd i’r gymuned Gymraeg, ac i ferched sydd eisiau gweithio mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Rydyn ni’n gweithio ar hyn; yn creu ‘Llysgenhadon’ sy’n siaradwyr Cymraeg ifanc llwyddiannus i fod yn fodelau rôl a hybu rhagor o bobl ifanc i feddwl am yrfaoedd STEM, creu ymgyrch i ddenu pobl sydd wedi gadael y rhanbarth yn ôl – gan ddod â’r sgiliau maen nhw wedi’u hennill yn ôl gyda nhw, a gweithio i gynyddu faint o siaradwyr Cymraeg sydd yn M-SParc yn gyffredinol.  Byddwn yn dal ati i gynnal ein fforwm i Ferched yn y parc yn ogystal â’r digwyddiadau i Ferched mewn Technoleg a Merched mewn Gwyddoniaeth, a byddwn ni’n monitro faint o ferched sydd mewn rolau gweinyddol a beth allwn ni ei wneud i wella hyn.

Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid ar hyn, gan gynnwys Prifysgol Bangor, STEM Gogledd, y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a mwy. Diolch iddyn nhw i gyd am eu cefnogaeth, a gobeithio byddwn yn dal ati i weithio gydag eraill yn y rhanbarth wrth i ni fynd i’r afael â hyn. Mae llawer o waith i’w wneud a dim ond dechrau arni ydy hyn, ond drwy weithredu a monitro’r cynnydd bob blwyddyn rydyn ni’n gwybod y gallwn ni wneud yn well.