Mae CreuSbarc yn falch o rannu straeon a newyddion entrepreneuriaid Cymru.
Os oes gennych chi stori neu ddarn o newyddion i'w rannu sy’n berthnasol i arloesi ac entrepreneuriaeth, neu erthygl sy’n eich ysbrydoli a'ch symbylu, mae croeso i chi ei rhannu â ni.
Yng nghyswllt entrepreneuriaid, arloeswyr, pobl sy’n cael syniadau a phobl sy’n arwain agweddau, mae clywed straeon o fywyd go iawn gan bobl o'r un anian yn gallu cael effaith hirhoedlog yn aml.
O straeon llwyddiant i droeon anffodus, mae straeon go iawn yn taflu goleuni ar yr emosiynau mae pob un ohonom yn cael profiad ohonynt ac yn gallu ysbrydoli, calonogi a chysuro.
Defnyddiwch y lle gwag isod i roi crynodeb o'r stori neu'r darn o newyddion yr hoffech chi eu rhannu.
Ar ôl ichi gyflwyno eich stori/newyddion bydd un o'r tîm yn cysylltu'n ôl â chi yn fuan i drafod hyn ymhellach.