Bill Aulet, Athro gyda MIT, yn annog rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru i ymuno â’i gilydd i hybu Arloesedd ac Entrepreneuriaeth

Bill Aulet yw Rheolwr Gyfarwyddwr Canolfan Martin Trust MIT ar gyfer Entrepreneuriaeth MIT. Mae hefyd yn uwch-ddarlithydd yn Ysgol Rheolaeth MIT Sloan. Mae’r ganolfan yn gyfrifol am entrepreneuriaeth ar draws pum ysgol MIT gan ddechrau gydag addysg. Fodd bynnag, mae’n mynd ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth gan ei bod hefyd yn cynnwys clybiau chwaraeon, cynadleddau, cystadlaethau, digwyddiadau, rhwydweithio, hacathons, teithiau myfyrwyr ac, yn ddiweddar, cyflymyddion.

Cyn ymuno â MIT, roedd Bil wedi cael 25 mlynedd o lwyddiant ym myd busnes. Mae wedi codi dros $100 miliwn yn uniongyrchol ar gyfer ei gwmnïau. Yn bwysicaf oll, mae hyn wedi arwain at greu cannoedd o filiynau o ddoleri yng ngwerth y cwmnïau hyn ar y farchnad. Dechreuodd Bil ei yrfa yn IBM lle cafodd hyfforddiant a phrofiad ym meysydd technegol, marchnata, gwerthiant, arian, a chynnal a rheoli busnes rhyngwladol.

Erbyn hyn, yn ogystal â’i waith yn MIT, mae Bill yn helpu unigolion a chwmnïau i fod yn fwy llwyddiannus drwy entrepreneuriaeth a ysgogir gan arloesedd. O helpu entrepreneuriaid unigol i lansio mentrau newydd, i gorfforaethau gwerth miliynau lawer o ddoleri sy’n ceisio cyflawni eu hamcanion drwy entrepreneuriaeth, intrapreneuriaeth ac arloesedd, yr un yw’r hanfodion sydd wedi’u rhoi ar waith yn llwyddiannus.