"Barn: peidiwch â gadael i hynny eich dychryn”, meddai Aimee Bateman, prif weithredwr a sylfaenydd Careercake.com

Mae Aimee yn siaradwr llwyddiannus, yn llysgennad busnes ac yn arbenigwr cyflogaeth cydnabyddedig. Mae hi wedi gweithio i rai o’r cwmnïau recriwtio mwyaf, mae ganddi fideos llwyddiannus ar Youtube, ac mae hi’n rhedeg gwefan gyrfaoedd sy'n cynnig ymgynghoriaeth, sef Careercake.com

Yma, mae Aimee yn trafod derbyn barn...

Mae barn yn rhan enfawr o gymdeithas, mae’n realiti. Does dim ond angen i ni edrych ar y cyfryngau i weld straeon am bobl sydd wedi rhoi cynnig arni ac wedi methu’n llwyr, ac maen nhw’n cael eu gwawdio a’u beirniadu. Ond nid realiti yn unig yw barn, mae’n anghenraid. Fel pobl, mae’n rhaid i ni wneud penderfyniadau bob dydd ac mae barn yn dylanwadu ar y penderfyniadau hynny. Mae’n beth da oherwydd mae’n helpu i gadw ein calon, ein meddwl a’n corff yn ddiogel.

Fodd bynnag, ofni'r hyn mae pobl eraill yn ei feddwl yw’r prif beth sy’n caethiwo pobl. Gall barn pobl eraill amdanom ni fod yn beth da, ond os na allwn ni ddelio â hynny yn y ffordd iawn, gall gael effaith negyddol. Mae’n rhaid i ni gofio nad yw barn un person yn adlewyrchu barn pawb.

Yn ei hierarchaeth anghenion, mae Maslow yn dweud bod arnom ni angen teimlo ein bod ni’n cael ein gweld, ein clywed a'n gwerthfawrogi. Mae angen i ni gael ein barnu am y rhesymau cywir. Does dim gwahaniaeth pa mor llwyddiannus ydyn ni, mae’n ymwneud â chymhareb. Po fwyaf o bobl sy’n gwrando, y mwyaf o bobl sy’n ein barnu. Bydd yna adegau lle byddwch chi’n poeni am yr hyn fydd pobl yn ei feddwl, ond mae ffyrdd o beidio ag ofni hynny. Gallwn ofalu bod gennym bobl o’n cwmpas sy’n gwneud i ni deimlo’n anhygoel ond y peryg wrth wneud hynny yw ein bod ni’n dal i flaenoriaethu barn rhywun arall dros ein barn ein hunain. Os byddwch yn cael eich cynnal gan ganmoliaeth, yna bydd beirniadaeth yn eich trechu.

Mae angen i ni ddysgu derbyn y byddwn ni’n cael ein barnu, a derbyn y farn honno. Ond, rhaid cofio mai yn eich barn chi mae’r pŵer.

I wylio sgwrs TEDx Aimee Bateman