Beth ydy rôl yr addysgwr entrepreneuriaeth ym maes Addysg Bellach?

Dyma beth mae Ruth Rowe B.A. (Anrh), M.A., F.I.E.E.P o Goleg Penybont wedi ysgrifennu ar y pwnc.

‘Os yw’r ‘entrepreneur yn achosi dryswch ac anhrefn’ (Drucker), beth ydy rôl yr addysgwr entrepreneuriaeth ym maes Addysg Bellach?’

YnInnovation and Entrepreneurship: Practice and Principles’ daw Peter Drucker i'r casgliad fod ‘yr entrepreneur yn achosi dryswch ac anhrefn.’ Os yw hyn yn wir, oni ddylai rôl yr addysgwr entrepreneuriaeth ym maes Addysg Bellach (AB) fod yn un o hwyluso ac annog anhrefn ac ymyrraeth? Yn wir, fel patrwm cadarnhaol o ymddygiad, oni ddylai eu gwaith fynd ati’n rhagweithiol i darfu ar yr status quo? Os felly, sut mae hyn yn gydnaws â diffiniad Llywodraeth Cymru o addysg entrepreneuriaeth a sut byddai pob pennaeth a rhanddeiliad yn teimlo am y broses fentrus hon o greu llanast?

Yn ôl y Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid (2004):  

‘Mae a wnelo addysg entrepreneuriaeth â datblygu agweddau a sgiliau pobl ifanc i’w helpu i gyflawni eu potensial. Mae a wnelo hefyd â’r brwdfrydedd i wireddu syniadau ac i fanteisio ar gyfleoedd, gan alluogi pobl ifanc i fod yn bositif, yn rhagweithiol ac yn llwyddiannus yn eu hymagwedd at fywyd a gwaith.’

Does bosib nad oes neb yn dadlau â'r ddelfryd rymusol hon sy’n gwneud i mi godi yn y bore, ac oni fyddai hyd yn oed Drucker wedi cytuno â nod y Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid i ‘ddatblygu a meithrin pobl ifanc hunangynhaliol ac entrepreneuraidd ym mhob cymuned ar draws Cymru a fydd yn cyfrannu’n gadarnhaol at lwyddiant economaidd a chymdeithasol’ ?

Os felly, y cwestiwn sydd o ddiddordeb i mi - ar wahân i, ‘Ydw i am ateb unrhyw un o’m cwestiynau fy hun byth?’- ydy, ‘a oes angen rhoi rhwydd hynt i ddryswch ac anhrefn er mwyn cyflawni’r nod pwysig uchod? ‘Wel, oes. Fe ddechreuaf ateb cwestiynau yn y man, ac oes amodol fyddai fy marn i ar ôl ystyried y mater.

Datblygu sgiliau ac agweddau pobl ifanc i'w paratoi ar gyfer bywyd a gyrfa llawn boddhad yw pwrpas Addysg Bellach.  Mae datganiad cenhadaeth Coleg Penybont ‘Byddwch yn bopeth y gallwch fod’ yn dangos yn glir bod hyn wrth wraidd popeth mae’r Coleg yn ei wneud ac alla i ddim cofio neb o’m cydweithwyr yn awgrymu bod yn rhaid creu hinsawdd o anhrefn ac ymyrraeth er mwyn i fyfyrwyr ffynnu. Yr hyn mae fy nghydweithwyr yn ei wneud yn wych wrth ddysgu sgiliau galwedigaethol yw gwneud yn siŵr eu bod ar y blaen yn eu meysydd pwnc penodol, gan goleddu a bod yn gwbl gyfarwydd â syniadau newydd a thechnolegau sy’n datblygu sydd eu hunain wedi deillio o ‘anhrefn’ Drucker neu ‘ddinistr creadigol’ Shumpeter.

Mae angen i bob myfyriwr ddeall beth yw entrepreneuriaeth a pham ei bod yn hanfodol ar gyfer twf economaidd cryf a chynaliadwy, ac mae modd cynnwys y lefel hon o ddealltwriaeth yn llwyddiannus iawn yn y mwyafrif helaeth o feysydd pwnc galwedigaethol. Ond, er mwyn mynd ati go iawn i feithrin talent entrepreneuraidd eginol yn y rhai hynny sy’n torri rheolau ac yn cymryd risgiau, entrepreneuriaid y dyfodol, rwy’n credu bod yn rhaid i’r rhai sy’n dysgu entrepreneuriaeth fynd gam ymhellach. Mae croesawu newid a sicrhau bod arloesedd yn cael ei drafod a'i ddadansoddi yn y dosbarth yn wych o beth. Ond nid yw’n ddigon os ydym am weld ein myfyrwyr yn creu newid ar eu cyfer nhw eu hunain, eu cymunedau a’r byd ehangach. Er mwyn gwneud hynny, rhaid i bobl ifanc sydd â gwir ddiddordeb mewn rhedeg eu busnes eu hunain un diwrnod, gael y cyfle i ganfod pa mor fentrus ac entrepreneuraidd y gallant fod mewn ffordd mor ddilys â phosibl.

Dydy darllen am sut mae gwneud omled neu wylio fideo o gogydd enwog yn gwneud hynny ar YouTube ddim yr un fath a thorri’r wyau eich hun. Bydd methu â’i gael o’r badell ffrio mewn un darn yn dysgu llawer mwy i chi am yr hyn na ddylech ei wneud y tro nesaf na dim ond darllen y rysait eto neu wrando ar rywun yn esbonio gwyddor coginio wyau. Yn yr un modd, rhaid i addysg entrepreneuriaeth beidio â chanolbwyntio ar deithiau entrepreneuraidd eraill yn unig, pa mor werthfawr bynnag yw hynny. Rhaid iddo hefyd gynnwys elfen o ddysgu drwy brofiad er mwyn bod yn wirioneddol bwerus a newid bywyd o bosib.

Y ffordd orau o gael gwybod rhagor am ansawdd cynnyrch neu wasanaeth ac a oes modd ei werthu yw mynd ati i’w werthu. Bydd prynwyr posibl yn ddigon hapus i ddweud os yw’n rhy fawr, yn rhy fach, yn rhy rhad, yn rhy ddrud, ddim yn ddigon 'cŵl’ neu ddim yn iawn iddyn nhw.  Fe wnân nhw hefyd ddweud wrthych chi os yw’r cynnyrch neu wasanaeth yn dda. Serch hynny, dim ond ar ôl iddyn nhw ddefnyddio’u harian prin i brynu rhywbeth y byddwch chi’n gwybod y gallech chi fod â rhywbeth sydd am fod yn llwyddiant.

Mae rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr greu a gwerthu cynnyrch neu arddangos eu gwaith celf neu sgiliau masnachol posibl eraill yn hollbwysig, yn fy marn i, gan mai dim ond drwy wneud rhywbeth ‘go iawn’ y byddan nhw’n wirioneddol ddeall sut deimlad yw bod yn entrepreneur. Mae entrepreneuriaid yn mentro llawer mwy nag arian bob tro maen nhw’n cyflwyno cynnyrch arloesol i'r farchnad. Maen nhw’n mentro niweidio perthnasoedd ac enw da, chwalu gobeithion a breuddwydion, a chael eu bychanu hyd yn oed. (Ydych chi’n cofio’r Sinclair C5?) Nid yw cytuno bod hunan-gred a dycnwch yn hanfodol i unrhyw entrepreneur yr un fath â gorfod darganfod hynny eich hun, er ar raddfa fach efallai neu mewn amgylchedd cefnogol i gychwyn.

Felly, sut mae hynny’n ein gadael yn nhermau rôl yr addysgwr entrepreneuriaeth? Cyn i mi ddod i unrhyw gasgliadau pendant, roeddwn yn teimlo y byddai’n syniad da gofyn i rai o gyn fyfyrwyr Coleg Penybont, sydd bellach yn rhedeg eu busnesau eu hunain, beth ddylai addysgwr entrepreneuriaeth fod neu beth ddylai fod yn ei wneud, yn eu barn nhw.

Credai un y dylai addysgwr entrepreneuriaeth effeithiol fod yn ‘bositif, yn greadigol ac yn frwd ac yn gwybod sut i gael y gorau allan o bobl.’ Dywedodd un arall mewn byr eiriau y dylent ‘dywys egin entrepreneuriaid i’r cyfeiriad iawn gydag amynedd, gonestrwydd a charedigrwydd.’

Roedd y trydydd yr un mor ddi-flewyn-ar-dafod a llafar, gan ddweud ‘bod angen i addysgwr entrepreneuriaeth da allu rhoi i fyfyrwyr y cymhelliant a’r sgiliau angenrheidiol i ysgogi arloesedd.’ Teimlai hefyd mai rhan bwysicaf y rôl yw ‘gofyn y cwestiynau anodd a’r cwestiynau sydd weithiau’n annifyr. Oherwydd heb ofyn y rhain, fe allech chi (darpar entrepreneur) golli golwg ar y darlun ehangach.’ 

Efallai eich bod wedi sylwi nad oes dim o’r safbwyntiau diddorol hyn yn cyfeirio o gwbl at bwysigrwydd dysgu drwy brofiad. Felly ydy hynny’n gwbl amherthnasol wedi’r cyfan? Gan fy mod yn adnabod y tri pherson ifanc yn dda iawn, ac wedi bod yno pan wnaethant ddweud ‘ie plîs’ yn frwd i bob cyfle a gafodd ei gynnig iddynt, rwy’n siŵr nad dyna fel y mae.  Yn wir, rwy’n credu bod y tri wedi ystyried dysgu drwy brofiad fel rhan mor greiddiol o’u haddysg entrepreneuraidd fel eu bod yn cymryd yn ganiataol ei fod yn hanfodol. Felly, mae'r hyn maent wedi’i ddweud am rôl yr addysgwr entrepreneuriaeth yn seiliedig yn bennaf ar y sgiliau a’r ymddygiadau sy’n ofynnol i gefnogi myfyrwyr pan maent yn dysgu drwy brofiad. Roedd y ffaith y bydd y person hwnnw hefyd yn darparu ac yn hybu cyfleoedd perthnasol yn rhy amlwg i’w grybwyll.

Felly, beth yw rôl yr addysgwr entrepreneuriaeth ym maes AB? Yn fy marn i, ei rôl yw ysbrydoli a hwyluso cymaint o anrhefn ac ymyrraeth â phosibl drwy fod yn gadarnhaol, yn greadigol, yn amyneddgar, yn garedig ac yn angerddol er mwyn sbarduno arloesedd.

Onid yw’n swnio’n hawdd o'i roi fel ‘na?