Am beth ydych chi’n chwilio pan fyddwch chi’n dyrchafu rhywun i rôl arweinydd?
Pan ofynnodd Suzy Welsh y cwestiwn hwn, doedd hi ddim yn disgwyl yr ateb a gafodd hi gan Jeff Bezos, Prif Swyddog Gweithredol Amazon.
Dydy Jeff Bezos ddim yn chwilio am y nodweddion y byddech chi’n eu disgwyl – sgiliau annog, gweledigaeth strategol neu ba mor glyfar neu deallus yw rhywun. Mae’n chwilio am hanes blaenorol o wneud penderfyniadau anodd sydd wedi bod yn benderfyniadau cywir yn y pen draw.
Mae’n dweud “Nid y bobl fwyaf academaidd neu’r rhai sy’n meddwl ar eu traed yw’r rhai mwyaf llwyddiannus bob amser, ond y rhai sy’n canolbwyntio ar sicrhau'r canlyniadau gorau a gwneud penderfyniadau anodd, sy’n benderfyniadau cywir yn y pen draw”.
Efallai nad yw hyn yn amlwg iawn, ond mae’r bobl sy’n llwyddo ym myd busnes wedi cyrraedd y brig drwy wneud y penderfyniadau cywir. Felly a ydych chi’n gywir neu’n glyfar?