Mae’r weledigaeth o Gymru fel cenedl fwy llewyrchus, gyda gwell swyddi a chymunedau mwy bywiog yn un y gall y sawl sydd mewn llywodraeth uniaethu â hi - yn enwedig unigolion sydd â’r dasg o sbarduno twf economaidd. Mae cyflawni’r nodau hyn yn her barhaus o hyd.

Os ydych chi’n gweithio ym myd llywodraeth, gall CREU SBARC eich helpu i ymuno â mudiad sy’n dod â rhwydwaith cyfoethog o bobl a sefydliadau at ei gilydd, gan ganolbwyntio ar wthio entrepreneuriaeth arloesol i’r lefel nesaf.

Bydd y mudiad hwn yn dod â phobl a sefydliadau blaengar at ei gilydd i greu busnesau a chynhyrchion arloesol y dyfodol, gan helpu i sicrhau swyddi, twf a ffyniant yn y cymunedau rydych chi’n eu gwasanaethu.

Yng Nghymru, mae’r dyfodol eisoes yma – y cwbl sydd angen ei wneud yw ei feithrin. Heddiw, mae arloeswyr yn eich cymuned yn creu’r math o fusnesau a gwasanaethau newydd a all gael effaith gadarnhaol a phellgyrhaeddol. Trwy CREU SBARC, gallwch helpu i gyflymu’r broses hon.